Mae cyfres deledu BBC Cymru Hidden Histories, a Huw Edwards yn sylwebu, yn dilyn gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, corff sy’n 100 oed. Bydd pob pennod yn dilyn staff y Comisiwn wrth iddynt wneud tri ymchwiliad i orffennol Cymru drwy astudio’i threftadaeth gyfoethog o safleoedd archaeolegol, tirweddau ac adeiladau hanesyddol. Mae’r gyfres yn rhoi sylw i bob rhan o Gymru ac yn amrywio o’r cyfnod cynhanes hyd at yr Ail Ryfel Byd. Mae llawer mwy o wybodaeth ar gael am y safleoedd sy’n cael sylw yn y gyfres, yn ogystal â llu o safleoedd eraill, yn y Canllawiau i’r Penodau ac yn y gronfa ddata ar-lein Coflein
Gallwch chi ddarllen am waith y Comisiwn Brenhinol yn y llyfr Trysorau Cudd
Gwahoddir gwylwyr i anfon gwybodaeth neu sylwadau atom ynglŷn â’r safleoedd yr ymwelwyd â hwy yn ystod y gyfres, a chaiff detholiad o’r ymatebion hynny eu cynnwys ar y we-dudalen hon.
Os oes gennych chi ryw syniad neu wybodaeth yr hoffech roi gwybod i ni amdano neu amdani, e-bostiwch Karen Andrews.
Rhowch “Adborth ar Hidden Histories/Hidden Histories Feedback” yn deitl i’ch e-bost.