Treftadaeth Cymru

Manylyn o’r ffenestr liw sy’n darlunio’r Goeden Jesse yn Eglwys Sant Dogfan, Llanrhaeadr-ym-Mochnant. 1986 (Image: DI2005_0640 / NPRN: 223) Palas Esgob Tyddewi. Hawlfraint: Miss M. Wight, tua 1934. (Image: DI2005_0630 / NPRN: 21633) Pentref Hynafol Dinllugwy. Moelfre, Ynys y Mon. 1994. (Image: CD2003_604_029 / NPRN: 95541)

Themâu

Gan fod cymaint o gyfoeth o olion archaeolegol ledled Cymru, mae modd ymchwilio i storïau ei thrigolion o’r cyfnodau cynharaf hyd heddiw. Am filoedd o flynyddoedd mae pobl wedi gadael cliwiau y gallwn ni eu defnyddio i geisio deall eu bywydau.

Mae gwaith y Comisiwn Brenhinol ledled Cymru yn esgor ar gasgliad unigryw o gofnodion sy’n gallu dangos, er enghraifft, sut y bu pobl ar un adeg yn byw, yn gweithio, yn masnachu ac yn addoli, sut y datblygodd eu dulliau cludo a sut yr effeithiodd gwrthdaro ar eu bywydau, yr hyn a wnaent yn eu hamser hamdden a sut yr oeddent yn ymdrin â marwolaeth.

Mae’r wybodaeth a gasglwn yn esgor ar adnodd sy’n amhrisiadwy wrth ymchwilio i themâu ac agweddau ar hanes Cymru. Cewch wybod rhagor drwy fynd i Coflein ac ymweld â’n tudalen Cyhoeddiadau.