Treftadaeth Cymru

Henebion a Llenorion

Ar ôl dathlu canmlwyddiant ein Hamgueddfa Genedlaethol a’n Llyfrgell Genedlaethol yn 2007, tro Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru – y trydydd ‘casgliad cenedlaethol’ – yw hi eleni. I gydnabod hynny, mae llenorion wedi’u comisiynu i lunio cyfres o ymatebion i ddelweddau yn archif y Comisiwn Brenhinol, sef Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Byddant i’w gweld ar dudalennau Planet. Mewn rhifynnau o Planet yn ddiweddarach eleni, felly, bydd rhai o lenorion gorau Cymru’n mynd i’r afael â’u detholiad eu hunain o’r cyfoeth o ddelweddau sydd wedi’u cynhyrchu neu wedi’u casglu dros y can mlynedd diwethaf.

Mae’r delweddau sydd yng ngofal y Comisiwn yn rhychwantu’r cyfan o hanes Cymru – o ymdrechion pobloedd Palaeolithig i oroesi mewn amgylchedd didostur i brosiectau adeiladu mwyaf beiddgar Cymru heddiw, o’r gwrthgloddiau neu’r cerfiadau mwyaf cyntefig ar greigiau i gampweithiau byd cerflunio, pensaernïaeth a pheirianneg. Yn eu plith mae rhai o’r ffotograffau hynaf sydd wedi goroesi yng Nghymru ynghyd ag awyrluniau diweddar, mapiau, ffotograffau difyr sy’n cofnodi pensaernïaeth bythynnod, capeli, pyllau glo a phlastai, lluniadau gwreiddiol gan benseiri, adluniadau dychmygus, a modelau digidol tri-dimensiwn. Gall pob un ohonyn nhw adrodd storïau ffeithiol am y gorffennol neu gyffroi’r dychymyg i ymateb iddi.

Cychwynnodd y Comisiwn Brenhinol ei gysylltiad â llenyddiaeth yn fuan ar ôl iddo gael ei sefydlu, a hynny am i Edward Thomas, un o feirdd y Rhyfel Byd Cyntaf, fod yn un o’r aelodau cynharaf o’i staff. Bydd Planet yn awr yn dwyn y cysylltiad hwnnw ymlaen i’w ail ganrif.
Caiff y darnau a gyhoeddir gan Planet yn ystod 2008 eu dangos mewn oriel gynyddol ar wefan y Comisiwn Brenhinol. Gallwch chi chwilio miloedd yn rhagor o ddelweddau ar-lein drwy Coflein – dilynwch y cyswllt ar frig y tudalen hwn.

  • Excavations Pen Dinas 1936 (CD2003_637_001)

Damian Walford Davies

WELSH CALVARY

Unearthed, posed for an altar-
piece, he's poised to shoot

the trench along the stone-
revetted bank, ladders lashed

to a pitch of vantage. Three swells
in slacks triangulate the strain,

one whistling There is a green hill
for reasons not yet exhumed.

  • Castell y Bere, a complex thirteenth century masonry castle built on a dramatic crag above the Dysynni valley (Image: GTJ00182/NPRN93719)

Gillian Clarke

AT CASTELL Y BERE

(Llywelyn ap Iorwerth 1173-1240)

Not hard to imageine them,
slipshod and slow on the slope to the summit,
hauling a castle up to the sky
in rain and wind, summer and winter,
stone by stone and timber by timber,
for his masons, carpenters, stone-carvers,
his craftsmen in leather and glass.
In sixty years it was over, surrendered.

Now, seven centuries on,
rain and wind, summer and winter
have scoured it of terror and blood.
All gone to grass. What remains
are Llywelyn's dream and his name,
and the vertebrae of a sheep -
a broken rosary dropped from the sky -
and two kites circling.

  • Holy Cross church, Mwnt Verwig. (Image:DI2008_0513/NPRN:301815)
  • Church of St Gwenllwyfor, Anglesey (Image:AP_2004_0209/ NPRN 43610)


Christopher Meredith

The Churches

We live now in low places
or on mountaintops.
Don't expect us to aspire.
Skyward fingers
are for foreigners.
If we risk a tower
it squats hard
and burrows toes in shale,
lances up the better to know
its downhereness.
    No. Down's where to knuckle,
clench mud
and honour stone
with our stoniness.
We fasten in hinterlands
or cling to edges
in the turn of light round cloud
where hill slithers into cliff
where mountain arches into air
where snouts of land
push into sea
that turns to light
and light that liquifies.
    But at base all's earth.
It's said what's wired to rock
can draw down thunderbolts.
There are rumours of gods.
Don't trust them.
Expect no communing.
We draw you from people
to bare ledges
to woodclogged hollows
where old lonely life
endures under thorn or carapace,
to far places where
on the good days
pure water seeps
from mud.

  • Carew Cross (Image: DI2008_0431/NPRN:103458)

Iwan Llwyd

BETHLEHEM I’R GROES

Nid o’n gwirfodd yr awn ni ar honno,
ar y lôn unig a digwmpeini,
a’n gwadnau a’n cyhyrau ni’n brifo
ar ôl llusgo drwy’r llaid a’r llwch sy’ arni:
fe awn am fod rhyw nerth yn ein gyrru
i herio’r gorwel a’i sêr di-gyrraedd,
i adeal cesail y mannau hynny
lle na chlywir udo’r un ddychrynwaedd:
i fentro’n sigledig drwy’r tir agored
a’r paith diderfyn, lle mae’r dŵr yn darfod,
i ddringo llethrau’r llechweddau caled,
drwy’r hafnau a’r cymoedd cul, nes canfod
ar gornel stryd, yn ei wely o wair,
y dyn bach aiff i’r groes, a dechreuad y gair.

Ancient Monuments and Present Words - 5

Ancient Monuments and Present Words - 6