Tynnu awyrluniau yw un o’r ffyrdd mwyaf pwerus o ddogfennu’r newidiadau yn nhirwedd Cymru o’r cyfnod cynharaf hyd heddiw. Oddi fry, gall archaeolegwyr edrych i lawr ar ganrifoedd o newidiadau yn y dirwedd, tynnu lluniau o henebion hysbys, dod o hyd i safleoedd sydd ynghudd ers canrifoedd, a chynnig persbectif newydd ar ein dinasoedd, ein trefi a’n treftadaeth adeiledig.
Mae archif y Comisiwn Brenhinol o awyrluniau yn dangos ehangder diwylliant a thirwedd Cymru – o feddrodau cynhanesyddol, bryngaerau o’r Oes Haearn, trefi Rhufeinig a chestyll canoloesol i blastai gwledig, dociau hanesyddol, amddiffynfeydd o’r ddau Ryfel Byd, a phensaernïaeth fodern. Mae lluniau mwy cyffredinol o dirwedd Cymru ar gael hefyd, p’un a ydych chi’n chwilio am olygfeydd o diroedd carreg-galch ar hyd yr arfordir, traeth yn yr haf, Stadiwm y Mileniwm neu gopa’r Wyddfa. Mae awyrluniau ‘arosgo’ Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (sef edrych allan o awyren ysgafn) sydd wedi’u tynnu gan y Comisiwn Brenhinol ers 1986 yn rhan o archif ehangach (ôl-1940) o awyrluniau arosgo a ‘fertigol’ (sef edrych yn syth i lawr o awyren arolygu) ac yn dangos y newidiadau yn yr olwg sydd ar Gymru.
Yn yr oriel ar-lein hon cewch weld rhai o’r awyrluniau arosgo gorau sydd yn archif y Comisiwn Brenhinol. Dangosant nid yn unig safleoedd a thirweddau archaeolegol traddodiadol ond hefyd olwg fwy anarferol ar adeiladau, arfordir a thirwedd y Gymru fodern.
Dod o hyd i’r gorffennol o’r awyr – ôl cnydau
Bob blwyddyn, daw archaeolegwyr y Comisiwn Brenhinol o hyd i safleoedd a henebion o’r awyr. Mae henebion archaeolegol di-rif wedi’u colli oherwydd amaethu, dinistrio ac erydu dros y canrifoedd ers iddynt gael eu codi gyntaf. Ar lawr gwlad, fe all nad oes dim i ddangos i ni ble y bu ffermydd cynhanesyddol a filâu Rhufeinig, ond fe all fod olion sylweddol o ffosydd claddedig, sylfeini waliau a nodweddion eraill o’r golwg o dan yr haen uchaf o bridd. Yn ystod hafau sych bydd y cnydau sy’n tyfu ar briddoedd a gaiff eu draenio’n dda ar dir isel yn gallu datgelu siâp a safle’r olion claddedig hynny drwy gyfrwng ôl cnydau.
Bydd ôl cnydau i’w gweld pan fydd y planhigion sy’n tyfu dros nodweddion archaeolegol claddedig, megis hen ffosydd neu dyllau pyst, yn tyfu’n dalach a gwyrddach dros y pridd mwy ffrwythlon a thamp yn y tyllau. Ar y llaw arall, bydd y rhai sy’n tyfu dros waith maen a muriau claddedig yn aeddfedu’n gyflym ac yn troi’n felyn am fod y pridd yn fas a heb fawr o faeth ynddo.
O’r awyr y caiff y gwahaniaethau hynny yn nhyfiant yr haf, a all ymddangos fel pelydr-X o’r cae, eu gweld gliriaf. O dan amodau eithriadol haf sych iawn, mae modd canfod cannoedd ar gannoedd o safleoedd ôl cnydau newydd mewn ychydig fisoedd, a dyna ddangos cyfraniad sylfaenol awyrluniau i’r broses o geisio deall archaeoleg Cymru.
Cofnodi gwrthgloddiau mewn goleuni isel
‘Twmpathau’ â gwair yn tyfu drostynt yw llawer iawn o safleoedd archaeolegol Cymru erbyn hyn. Mae rhai o’r gwrthgloddiau’n amlwg ac wedi’u diogelu’n dda, fel sy’n digwydd yn achos rhai tomenni canoloesol (twmpathau cestyll) neu fryngaerau o’r Oes Haearn. Mae eraill heb eu diogelu cystal o bell ffordd. Yr adeg orau i dynnu lluniau o weddillion gwrthgloddiau yw pan fydd yr heulwen yn isel ac ar ongl sy’n dadlennu patrymau’r safleoedd drwy olau a chysgod. Gall cysgodion hwyrddydd haf gynnig amodau delfrydol, er y gall llystyfiant guddio rhai o’r manylion. Yn y gaeaf, ac yn enwedig ar ôl yr eira cyntaf, bydd y ffaith fod y gwair a’r rhedyn yn isel yn golygu bod modd tynnu lluniau eithriadol o glir o lawer gwrthglawdd ar yr ucheldiroedd.
O dynnu lluniau ohonynt o’r awyr pan fydd hi wedi rhewi’n galed neu o dan haen ysgafn o eira, bydd modd gweld amlinelliadau o wrthgloddiau mân iawn yn gliriach o lawer. Mae nifer y darganfyddiadau newydd a wneir wrth gofnodi gwrthgloddiau ar fryniau a mynyddoedd Cymru yn debyg i nifer yr ôl cnydau a ddarganfyddir ar y tiroedd is yn ystod yr haf.
Cymru Gynhanesyddol
Oni bai am yr hyn a ddarganfuwyd wrth astudio awyrluniau, byddai’n dealltwriaeth ni o natur ac o hyd a lled yr anheddu cynnar yng Nghymru yn gyfyngedig iawn. Gwyddom i amaethu a chyfanheddu dwys ddigwydd yng Nghymru o’r cyfnod Neolithig ymlaen, sef 6,000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae miloedd o henebion pwysig wedi’u ‘hailddarganfod’ ers i’r rhaglen hedfan gychwyn.
Cymru Rufeinig
Yn awyrluniau arbenigol y Comisiwn Brenhinol o safleoedd a thirweddau o bob rhan o Gymru, fe gofnodir llawer iawn o ddaeareg, archaeoleg, hanes, diwydiant a phensaernïaeth Cymru. Bydd tynnu lluniau o Henebion Cofrestredig i Cadw yn rheolaidd yn sicrhau hefyd fod ein harchif yn cynnwys lluniau o safleoedd treftadaeth pwysicaf Cymru.
Cestyll ac amddiffynfeydd canoloesol
Ledled Cymru fe gewch chi amrywiol enghreifftiau o gestyll, plastai gwledig cadarn a chartrefi amddiffynedig o fewn ffosydd sy’n goroesi ers yr Oesoedd Canol. Yn aml, awyrlun fydd yn dangos eu lleoliad strategol a’u patrwm cyffredinol ar eu gorau.
Cymru’r Oesoedd Canol
Mae adeiladweithiau’r eglwysi canoloesol sydd wedi goroesi yng Nghymru, yn ogystal â safleoedd trefi a phentrefi, yn rhan oesol o’r dirwedd.
Plastai a Pharciau Gwledig
Mae llu o blastai ac ystadau gwledig enwog yng Nghymru, a dangosir tri ohonynt yma. Ceir gwrthgyferbyniadau yn yr enghreifftiau o’r math hwn o heneb. Er i Aberglasney gael ei ailddarganfod ac yna’i adfer dros flynyddoedd maith, does neb eto wedi adfer Castell Gwrych. Mae tynnu awyrluniau’n ddull arbennig o effeithiol o gofnodi gerddi ac ystadau hanesyddol am ei fod yn fodd nid yn unig i ddarlunio’r tai a’u stablau – ac adeiladau eraill sydd fel arfer o’r golwg – ond hefyd i ddangos cyd-destun y tiroedd a dirluniwyd, y cynlluniau plannu a’r byd y tu hwnt iddynt. Mae’r awyrluniau hanesyddol yn dangos ystadau mawr Cymru pan oeddent ar eu hanterth cyn iddynt ddechrau dirywio wedi’r ddau Ryfel Byd a chael eu chwalu.
Diwydiannau Cymru
Ers 1986, mae’r rhaglen hedfan wedi bod wrthi’n cofnodi’r newidiadau yn nhreftadaeth ddiwydiannol Cymru yn ogystal ag enghreifftiau o bensaernïaeth a pheirianneg sifil gyfoes.
Dociau a phorthladdoedd
Ledled Cymru, mae dociau a phorthladdoedd yn tystio i ddiwydiannau sydd gan mwyaf wedi darfod amdanynt - adeiladu llongau, pysgota ac allforio. Ym Mae Caerdydd, mae adeiladau hamdden ac adeiladau’r llywodraeth wedi’u codi ar dir hen lanfeydd y dociau.
Pontydd
Mae pontydd Cymru’n ei chysylltu â de-orllewin Lloegr dros aber Afon Hafren ac ag Ynys Môn dros Afon Menai yn y gogledd. Mae’n harchif o awyrluniau hanesyddol yn dangos codi Ail Groesfan Hafren.
Trefi a Dinasoedd
Un o gryfderau mawr edrych i lawr o’r awyr yw bod modd gweld cydlyniant patrymau cymhleth o adeiladau neu adeiladweithiau. Proses anodd neu faith, efallai, yw eu cofnodi ar lawr gwlad. Gan fod ffyrdd, archfarchnadoedd ar gyrion trefi a dinasoedd, neu ddatblygiadau tai newydd hefyd yn gallu effeithio’n aruthrol ar siâp a chymeriad cyffredinol cymuned, mae cofnodi trefi a dinasoedd Cymru yn rhan annatod o’n rhaglen hedfan.
Trefi Glan-Môr
Mae Cymru’n enwog am ei harfordir a’i threfi glan-môr, ond er bod y pier ym Mangor a’r pier yn Llandudno yn dal i dystio i ogoniant oes Victoria, ni fu llewyrch cystal o bell ffordd ar drefi glan-môr mewn rhannau eraill o Gymru.
Cymru Fodern
Gan fod cofnodi pensaernïaeth gyfoes a’r newidiadau yn amgylchedd adeiledig Cymru yn elfen ganolog yn ein rhaglen genedlaethol, mae’n harchif ni’n cynnwys awyrluniau o’r mwyafrif o’r prif brosiectau adeiladu a’r prif brosiectau peirianneg sifil sydd wedi’u cwblhau yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Mynyddoedd ac uwchdiroedd
Gall lluniau o fynyddoedd Cymru fod yn drawiadol a dramatig dros ben, fel y gwelwn ni yn yr awyrluniau hyn a dynnwyd yn ystod y gaeaf.
Llynnoedd
Yn aml, bydd storïau a chwedlau’n gysylltiedig â llynnoedd Cymru. Bydd rhai ohonynt, fel Llyn y Fan Fach ar Fynydd Du Sir Gaerfyrddin, yn gysylltiedig ag iacháu, ac eraill, fel Llyn Tegid yn y Gogledd, â chwedlau am ddinasoedd coll a bwystfilod dŵr. Mae tawelwch Llyn Hanmer, ar dir isel a ffrwythlon gororau’r gogledd-ddwyrain, yn golygu ei fod yn gwbl wahanol i lynnoedd uwchdiroedd Cymru.
Aberoedd
Mae aberoedd yn rhwym o ddenu sylw’r awyrluniwr ac yn aml ceir olion diwydiannau arfordirol a hen bentrefi pysgota ar hyd eu glannau.
Arfordir Cymru
Ar hyd yr oesoedd, mae arfordir Cymru wedi’i greithio’n helaeth gan y môr a’r tywydd ond hefyd wedi estyn croeso i deithwyr, saint a masnachwyr ac o dro i dro wedi gwrthsefyll neu gymathu goresgynwyr. I forwyr, yr oedd yr arfordir yn frith o fannau deniadol i lanio ynddynt - ac o glogwyni peryglus. Gallai ambell gilfach a thraeth fod yn harbwr hwylus, ac yn y porthladdoedd mwy o faint ceir cyfleusterau harbwr sy’n dal i fod gyda’r gorau ar Fôr Iwerddon.
Creigiau ac Ynysoedd
Mae ynysoedd Cymru’n gyforiog o olion archaeolegol, a cheir cymunedau anghysbell ar rai o’r ynysoedd mwyaf o hyd. Mae’r lluniau hyn yn ein hatgoffa o beryglon hwylio o amgylch yr ynysoedd, heibio i greigiau a cheryntau, dan warchodaeth y rhwydwaith o oleudai sydd wedi’u codi ar hyd yr arfordir.
Gweld pethau annisgwyl o’r awyr
Weithiau, wrth gofnodi Cymru o’r awyr, fe welir golygfeydd neu ddigwyddiadau anarferol a all gael eu troi’n lluniau cofiadwy i’w rhoi yn yr archif. Er enghraifft, cafodd y ‘map o’r byd’ a grëwyd gan 1400 o ddisgyblion Ysgol Penglais yn Aberystwyth ei ffurfio ar gyfer digwyddiad a gynhaliwyd gan elusen fyd-eang. Tynnwyd awyrluniau ohono drwy drefniant ymlaen llaw â’r Comisiwn Brenhinol fel rhan o daith hedfan archaeolegol. Mae’r awyrluniau yn ein harchif yn ddigon cynhwysfawr i ateb y mwyafrif o gwestiynau ac, os ydych chi’n chwilio am fath arbennig o lun, holwch staff profiadol Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Cyhoeddi Awyrluniau
Mae amryw o gyhoeddiadau wedi dangos cymaint yw hyd a lled yr archif o awyrluniau sydd gan y Comisiwn Brenhinol. Yn Pembrokeshire: Historic Landscapes from the Air (CBHC, 2007) fe ddangoswyd y cyfoeth o storïau y gall archaeoleg o’r awyr eu hadrodd am ddim ond un o siroedd Cymru. Bu awyrluniau’r Comisiwn Brenhinol hefyd yn rhan bwysig o’r lluniau yn y llyfr The Archaeology of the Welsh Uplands (CBHC, 2003). Mae’r ddwy gyfrol yn dal i fod ar gael o’n siop lyfrau. Cafodd y llyfr Wales from the Air gan Chris Musson ei gyhoeddi ym 1994, a hwnnw oedd ymdriniaeth fawr gyntaf y Comisiwn Brenhinol ag archaeoleg o’r awyr ac â thirwedd Cymru. Er ei fod bellach allan o brint, gellir dal i’w brynu oddi wrth ddetholiad o werthwyr llyfrau ail-law a’i gael ar fenthyg o lyfrgelloedd.
Cyhoeddi Awyrluniau
diwedd