Mae’r Comisiwn Brenhinol a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn cynhyrchu ac yn gofalu am rai o’r adnoddau gorau ar gyfer deall ac ymchwilio i dreftadaeth Cymru. Bydd yr adran hon o’r wefan yn eich helpu i ddewis llwybrau drwy’r cyfoeth hwnnw o wybodaeth gyda chymorth orielau o ffotograffau a lluniadau, syniadau ynghylch lleoedd i ymweld â hwy, a chyflwyniadau i themâu, cyfnodau a lleoedd penodol yn hanes Cymru, o oes y ffermwyr Neolithig hyd at brosiectau adeiladu mawr yr oes sydd ohoni. Mae yma bob math o adluniadau a modelau cyffrous ac awyrluniau, a chysylltau ag adnoddau eraill. Caiff eitemau pellach eu hychwanegu at y casgliad yn gyson a byddant yn ymdrin â phopeth o olion pentrefi o’r Oes Haearn i gestyll a mynachlogydd canoloesol, adeiladweithiau diwydiannol a threfi hanesyddol. Cewch wybod rhagor am nodweddion archaeolegol ac adeiladau hanesyddol unigol yn ein cronfa ddata ar-lein Coflein.