Y tîm Cofnodi Brys ar Adeiladau sy’n gyfrifol am arolygu a dehongli adeiladau hanesyddol y bygythir eu dymchwel neu eu newid yn sylweddol, neu sy’n dirywio’n ddifrifol. Mae’n ymdrin â phob math o adeiladweithiau sydd ar eu traed, ond agwedd allweddol ar y gwaith yw cofnodi (o dan delerau’r Deddfau Cynllunio Gwlad a Thref) Adeiladau Rhestredig neu adeiladau mewn Ardaloedd Cadwraeth lle mae caniatâd wedi’i roi i’w dymchwel neu i’w newid yn sylweddol.
Bob blwyddyn, daw dros 500 o hysbysiadau o geisiadau am Ganiatâd Adeilad Rhestredig oddi wrth awdurdodau unedol Cymru, a bydd y broses ymgynghori hon yn esgor ar ddeunydd archifol pwysig i Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, yn enwedig o ran cynlluniau a ffotograffau sy’n ymwneud ag adeiladau sydd, yn ôl y diffiniad, yn adeiladweithiau o ddiddordeb arbennig.
Wrth benderfynu a ddylid cofnodi adeiladwaith, rhaid cydbwyso blaenoriaethau’r Comisiwn Brenhinol a disgwyliadau’r awdurdodau cynllunio lleol a’r cyrff treftadaeth. Gan fod rhaid i’r cofnodi fod yn ddetholus, bydd yn dibynnu ar asesiad o faint y bygythiad, natur y cofnod presennol o fathau penodol o adeiladau, pa adnoddau sydd ar gael, a’r canfyddiadau o bwysigrwydd yr adeilad. Yn ogystal â chynnal ein harolygon ein hunain, byddwn yn cynghori ynghylch lefelau arolygu a dehongli sydd wedi’u gwneud gan eraill.