Ein Gwasanaethau

Llowes Court, Glasbury. 1997. (Image: DI2005_0783 / NPRN: 81340) Chwarel y Penrhyn. Diddyddiad. (Image: CD2005_606_008 / NPRN: 40564) Foel Drygarn, Crymych. Arfordir Penfro,1989. (Image: CD2003_605_012 / NPRN: 94948)

Ymchwilio a Chofnodi

Cangen Arolygu y Comisiwn Brenhinol sy’n gyfrifol am gofnodi ac ymchwilio er mwyn darparu gwybodaeth a dehongliadau awdurdodol o safleoedd, adeiladau a thirweddau archaeolegol a hanesyddol, gan ganolbwyntio’n arbennig ar elfennau na chynrychiolwyd ac na chydnabuwyd digon arnynt yn ein treftadaeth, neu ar elfennau sy’n enghreifftiau o bwys cenedlaethol neu ranbarthol o’u bath. Caiff ffrwyth ein gwaith ei ledaenu’n helaeth drwy amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys y gronfa ddata ar-lein Coflein llyfrau a chyhoeddiadau, adroddiadau ymchwil ac arddangosfeydd.

Mae ein strategaeth arolygu yn cwmpasu amrywiaeth mawr o brosiectau. Yn eu plith, mae prosiectau thematig neu brosiectau ardal, a rhaglen strategol o ymgynghoriadau ynghylch safleoedd unigol ac adeiladau sydd mewn perygl oherwydd eu hesgeuluso, niwed i’w hamgylchedd, neu ddatblygiad.

Rhoddwn gyngor proffesiynol i eraill ynghylch arolygu a dehongli safleoedd, a’n nod yw gosod safonau drwy ein prosiectau eu hunain a chyhoeddi ein Lefelau Arolygu. Nod arall sydd gennym yw datblygu ac ehangu ymagweddau at gofnodi, deall a dehongli drwy barhau i ddatblygu technegau megis arolygu digidol, arolygu o’r awyr a samplu dendrocronolegol

Croesawn y cyfle i weithio mewn partneriaeth – er enghraifft, ag awdurdodau lleol, prifysgolion, cyrff cadwraeth a grwpiau gwirfoddol a chymunedol.