Chwilio Cofnodion

Penrhyd, Tal-y-cafn. Lluniad mewn inc o cynllun y porthordy.  O gasgliadau'r CHCC: Hawlfraint H. L. North. Diddyddiad. (Image: CD2005_604_004 / NPRN: 96657) Llanfair, Llanfair-green. Llyfr nodiadau R.E. Kay, Cyfrol 1, Cyfres 3, tudalen 6a. 1948. (Image: CD2005_624_013 / NPRN: 12989) Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. 2000. (Image: CD2003_606_023 / NPRN: 309686)

Hanes a Chasgliadau

Ers ei sefydlu ym 1908, mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi mynd ati i arolygu a chofnodi safleoedd priodol ac i ddefnyddio amrywiol gyfryngau i gyhoeddi ei ddarganfyddion. Mae’r gwaith hwnnw, wrth gwrs, wedi esgor ar gryn dipyn o gofnodion, gan gynnwys nodiadau arolygu, ffotograffau a lluniadau. Er i’r rheiny gael eu diogelu’n wreiddiol mewn setiau o ffeiliau gweithio, nid oedd gan y Comisiwn Brenhinol wasanaeth pwrpasol ar y cychwyn i gadw na chofnodion na gwybodaeth.

Ond ym 1963 fe sefydlwyd Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) yn gangen cofnodion y Comisiwn Brenhinol. Trosglwyddwyd iddo’r adrannau o’r hen Gofnod Adeiladau Cenedlaethol a oedd yn ymwneud â Chymru. Er gwaetha’r sefydlu swyddogol damcaniaethol hwnnw, nid aeth Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ati tan ddiwedd y 1970au i gyflogi staff a arbenigai ar gofnodion ac i gymryd y rhan fwyaf o gofnodion Cymreig y Cofnod Adeiladau Cenedlaethol i’w feddiant. Ddechrau’r 1980au, fe ymgymerodd y Comisiwn Brenhinol hefyd â dyletswyddau Cangen Archaeolegol yr Arolwg Ordnans gan ychwanegu rhagor o gofnodion o bwys at y casgliad. Daliodd Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru i gronni’r deunydd a gynhyrchwyd gan ymchwilwyr proffesiynol y Comisiwn Brenhinol, a hynny drwy waith cyhoeddi a’r cofnodi brys ar safleoedd a oedd dan fygythiad. Daliodd ati hefyd i chwilio am gasgliadau perthnasol o amrywiol ffynonellau allanol, gan gynnwys cyrff proffesiynol a masnachol, sefydliadau academaidd ac unigolion.

Wrth i’r casgliadau dyfu, mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru wedi gwella’r trefnu a’r storio archifol ar ei ddaliadau ac ar y cyfleusterau sy’n fodd i’r cyhoedd eu gweld. Mae CHCC bellach wedi’i sefydlu’n gadarn yn brif gasgliad cenedlaethol o gofnodion pensaernïol ac archaeolegol Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r archif yn llenwi dros 300m2 o ofod llawr mewn stordai. Amcangyfrifir bod ynddo dros 3 miliwn o dudalennau o destun, dros 1¼ miliwn o ffotograffau, rhyw 67,000 o luniadau, 17,000 o fapiau a bron 11,000 o gofnodion digidol. Mae’r Archifdy Gwladol yn cydnabod bod Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn fan adneuo swyddogol i gofnodion cyhoeddus, ac mae gan y Cofnod storfeydd archifol ac arbenigol â rheolaeth lawn dros yr amgylchedd ynddynt. Daw amrywiaeth mawr o ddefnyddwyr i weld y daliadau helaeth hyn. Yn eu plith bydd archaeolegwyr a haneswyr proffesiynol a phobl sy’n ymwneud â rheoli datblygiadau a chynllunio a diogelu treftadaeth, ynghyd â myfyrwyr – o’r ysgol gynradd i’r brifysgol – ac unigolion sy’n ymddiddori yn y maes.

Y Casgliadau

Yn fras, fe drefnir daliadau’r archif naill ai’n “Gasgliadau Cyffredinol”, sef casgliadau cynyddol o eitemau unigol sydd wedi’u caffael, neu’n “Gasgliadau Arbennig”, sef archifau cyflawn a gafwyd ac a drefnwyd yn endidau unigol. Gall y casgliadau fod wedi dod o lawer ffynhonnell, gan gynnwys unigolion amatur a phroffesiynol, cyrff masnachol megis practisau pensaernïol, prosiectau a chyhoeddiadau’r Comisiwn Brenhinol, sefydliadau academaidd, a phob math o ymchwiliadau archaeolegol – o gloddio llawn i waith rheoli sylfaenol ar ddatblygiadau. Yn ogystal, mae gan Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gasgliadau helaeth o awyrluniau sydd wedi dod o wahanol ffynonellau, a llu o fapiau – yn setiau cyhoeddedig safonol ac yn gasgliadau archifol unigryw.

Dyma ddisgrifiad o rai o gasgliadau pwysicaf Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Y Cofnod Cenedlaethol o Adeiladau

Ym 1941, pan oedd y Blitz ar ei anterth, fe sefydlwyd y Cofnod Adeiladau Cenedlaethol (yr NBR) gan grŵp o bobl a oedd yn benderfynol o lunio cofnod o bensaernïaeth Prydain cyn i fomiau’r Luftwaffe ddinistrio adeiladau gwychaf y wlad. I gychwyn, fe luniwyd y cofnod drwy nodi a chynnull y casgliadau o ffotograffau a graffigwaith a oedd yn bodoli. At y cnewyllyn hwnnw fe ychwanegwyd rhaglen helaeth o arolygu ffotograffig cyflym a gofnododd adeiladweithiau pwysig cyn i’r gelyn gael cyfle i’w dinistrio. Cafwyd cyfraniadau sylweddol i’r corff newydd gan sefydliadau a fodolai bryd hynny. Yn eu plith, yr oedd Sefydliad Courtauld, a roes ei Lyfrgell Conway i fod yn graidd i’r casgliad gwreiddiol, a’r Cyngor dros Ofalu am Eglwysi, a drefnodd i’w gofnodion fod ar gael.

Rhwng 1941 a 1963, fe gydweithiodd yr NBR fwy a mwy â’r tri Chomisiwn Brenhinol, yn enwedig yn Lloegr. Gan fod y tri sefydliad yn ymddiddori mewn cofnodi adeiladau a oedd dan fygythiad, fe gafwyd cytundeb yn y pen draw i gymathu’r adrannau perthnasol o’r NBR i’r Comisiynau Brenhinol perthnasol ym 1963. Arweiniodd y penderfyniad hwnnw, fel y soniwyd, at sefydlu Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Gan mwyaf, cofnodion ffotograffig o ansawdd uchel yw’r deunydd a ddaeth i Gomisiwn Brenhinol Cymru o’r NBR. Yn eu plith mae rhai negyddion papur cwyr cynnar iawn, a phrintiau papur-halen o’r 1850au. Y ffotograffau hynny yw asgwrn cefn prif gasgliad cyffredinol Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, sef Ffeiliau Safle Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Y Casgliad o Luniadau

Mae’r Casgliad o Luniadau yn un arall o’r pwysicaf o brif gasgliadau cyffredinol Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Ynddo ceir lluniadau unigol a grwpiau bach o luniadau nad ydynt yn rhan o gasgliad arbennig mwy-ei-faint. Daw’r lluniadau o amryw o ffynonellau. Cânt naill ai eu cynhyrchu gan y Comisiwn Brenhinol wrth iddo wneud ei waith cofnodi, neu eu cyflwyno gan ffynonellau allanol. Amrywiant o gopïau o gynlluniau penseiri neu blotiau arolygu maes i adluniadau sydd wedi’u cynhyrchu gan is-adran graffigwaith y Comisiwn Brenhinol at ddibenion cyhoeddi. Ar hyn o bryd, mae’r casgliad cynyddol hwn yn cynnwys rhyw 11,000 o eitemau unigol, ac mae pob un ohonynt wedi’i chatalogio ar ein system gyfrifiadurol.

Y Casgliadau o Awyrluniau

Un categori o gofnodion y ceir y ceisiadau mwyaf mynych amdanynt o holl gofnodion Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yw’r awyrluniau. Mae tri phrif gasgliad ohonynt. Ceir dros 14,000 o awyrluniau du-a-gwyn fertigol a dynnwyd, gan mwyaf, gan y Llu Awyr rhwng diwedd y 1940au a’r 1960au. Ceir hefyd ryw 84,000 o brintiau fertigol monocrom a gynhyrchwyd gan yr Arolwg Ordnans wrth iddynt wneud gwaith arolygu yn ystod y 1970au a’r 1980au. Mae’r ddau gasgliad yn rhoi sylw rhagorol i ddaearyddiaeth Cymru, a bydd ymchwilwyr yn defnyddio llawer iawn arnynt. Yn ogystal â bod ag awyrluniau a roddwyd iddo, mae Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru hefyd yn cynnwys awyrluniau sy’n ffrwyth rhaglen weithgar y Comisiwn Brenhinol ei hun o arolygu o’r awyr. Ar hyn o bryd, mae’r casgliad hwnnw’n cynnwys dros 35,000 o awyrluniau lletraws du-a-gwyn a lliw a dynnwyd rhwng yr 1980au a heddiw, ac mae’n dal i dyfu. Caiff yr awyrluniau, sydd o safon uchel ac sydd, yn aml, yn drawiadol iawn, eu defnyddio’n helaeth at ddibenion ymchwil a chyhoeddi.

Casgliad Herbert L. North

Mae Casgliad Herbert L. North yn enghraifft arbennig o ddeniadol o gofnodion o bractis pensaernïol. Ynddo ceir lluniadau, ynghyd â rhai ffotograffau, a ddaeth o bartneriaeth North and Padmore, partneriaeth a fu ar waith yn y Gogledd rhwng tua 1900 a 1939. Fe’i sefydlwyd gan Herbert L. North, pensaer adnabyddus a mawr ei barch a fu’n gweithio yn null y Celfyddydau a’r Crefftau. Ceir rhai lluniadau cain iawn yn y casgliad, a gellir gweld llawer o’r adeiladau heddiw, yn enwedig yng nghyffiniau Llanfairfechan, lle’r oedd swyddfa’r pensaer. Mae’r cofnodion yn cynnwys dros 160 o eitemau unigol, ac mae pob un ohonynt wedi’i chatalogio.

Casgliad Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Dyma enghraifft ragorol o gasgliad a oedd yn rhodd gan sefydliad academaidd. Mae Casgliad Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn cynnwys gwaith cwrs, ynghyd â rhai ffotograffau atodol, a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr a oedd yn ddarpar benseiri yn yr Ysgol rhwng y 1960au cynnar a diwedd y 1980au. Yn y casgliad ceir rhyw 5,000 o eitemau unigol, gan gynnwys arolygon pensaernïol manwl o bob math o adeilad – o adeiladweithiau dinesig a domestig i safleoedd crefyddol neu ddiwydiannol. Er mai adeiladau yng Nghymru yw rhyw dri o bob pedwar adeilad a ddarlunnir, mae rhai ohonynt mewn rhannau eraill o Brydain, a sawl un ohonynt dramor mewn gwledydd o Norwy i Malaysia. Mae hynny’n adlewyrchu natur ryngwladol y corff o fyfyrwyr ac arwyddocâd byd-eang y sefydliad Cymreig hwnnw. Bellach, mae bron pob un o’r cofnodion wedi’i gatalogio ar ein system gyfrifiadurol.

Lluniadau o’r Henebion sydd yng Ngwarcheidwaeth Cadw

Gan fod Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, fel y crybwyllwyd, yn fan adneuo swyddogol i gofnodion cyhoeddus, bydd yn gweithio’n agos gyda’r Archifdy Gwladol i gynnig cartref i gofnodion cyrff cyhoeddus sy’n berthnasol i’n cylch gwaith ni, sef cynnal archif o archaeoleg a phensaernïaeth Cymru. Un o’r prif gasgliadau a gafwyd drwy’r broses hon yw’r lluniadau a’r cynlluniau a gasglwyd ac a gynhyrchwyd gan Cadw wrth iddo ymarfer ei rôl fel gwarcheidwad sawl heneb o bwys mawr yng Nghymru. Gwnaed y cofnodion rhwng troad y ganrif ddiwethaf a’r 1970au, a lluniwyd llawer ohonynt yn wreiddiol gan ragflaenwyr Cadw, sef y Weinyddiaeth Weithfeydd ac, yn ddiweddarach, Adran yr Amgylchedd. Mae’r casgliad yn cwmpasu popeth o blotiau bras o gaeau neu gynlluniau tir i arolygon manwl a lluniadau pensaernïol gorffenedig. Mae ynddo dros 3,300 o eitemau sydd wedi’u catalogio’n llawn, ond bydd yn tyfu wrth i ragor o luniadau – a gedwir gan Cadw ar hyn o bryd – gyrraedd eu 30 oed a chael eu trosglwyddo yn unol â’r Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus.

Casgliad R.E. Kay

Wrth drafod cofnodion sydd wedi’u rhoi’n breifat ac wedi’u creu gan bobl nad oeddent yn gweithio’n broffesiynol ym maes archaeoleg neu bensaernïaeth, byddai’n anodd sôn am gasgliad mwy trawiadol na’r un a gynhyrchwyd gan R.E. Kay dros chwe degawd o’r 1930au tan 1990. Mae ynddo 39 o lyfrau nodiadau a dau fynegai, sef cofnod o gyfres o deithiau ar droed neu mewn cerbyd yng Nghymru a’r Gororau, ac ambell waith mewn mannau eraill ym Mhrydain, a wnaed gan Richard E. Kay yn ystod ei amser hamdden o’i fachgendod hyd ei henaint. Yn y llyfrau ceir cofnod manwl i’w ryfeddu o’r cyfoeth o fanylion archaeolegol, pensaernïol a hynafiaethol y daeth ef ar eu traws yn ystod pob un o’i deithiau. Cawsant hefyd eu darlunio’n hyfryd gan R.E. Kay, a oedd yn ddrafftsmon dawnus. Yn ogystal â bod yn set ddeniadol ac anarferol o gofnodion, mae’r llyfrau nodiadau’n cynnwys cryn lawer o wybodaeth bwysig am nodweddion a all fod wedi diflannu ers y cyfnod hwnnw neu sydd heb eu cofnodi yn unman arall.