Glofa’r Tŵr, Y Rhigos, Morgannwg
Pan gaeodd Glofa’r Tŵr ar 25 Ionawr 2008, daeth oes pyllau glo dwfn Cymru i ben. Er bod cloddio am lo ar gomin Hirwaun, yng ngogledd maes glo’r de, yn dyddio’n ôl i tua 1800, fe agorwyd y gloddfa ddrifft gyntaf yn y Tŵr gan Ardalydd Bute tua 1870. Wrth siafft rhif 4 y mae’r prif gasgliad o adeiladau ar yr wyneb, ac fe ddatblygwyd y rheiny ar ddiwedd y 1930au a dechrau’r 1940au gan Gwmni Powell Duffryn Steam Coal, cwmni glo mwya’r de ar y pryd. Gwladolwyd y pwll o dan y Bwrdd Glo Cenedlaethol ym 1947 a’i ehangu ymhellach yn ystod y 1950au drwy godi adeiladau newydd, gan gynnwys baddonau, ar yr wyneb a chreu cysylltiadau dan ddaear â phyllau glo yng Nghwm Rhondda. Codwyd neuadd y peiriannau a ffrâm yr offer weindio uwchlaw siafft rhif 4 yn ystod y 1930au; mae’r fframwaith o drawstiau dellt yn nodweddiadol o’r rhai a ddefnyddiwyd o’r 1860au tan y 1930au, ond sydd bellach i’w gael ar ddim ond pedwar safle yng Nghymru. Er bod neuadd y peiriannau’n nodweddiadol o’r rhai a ddatblygwyd gan Powell Duffryn o 1906 ymlaen, mae hi ar raddfa anarferol o fach. Ynddi ceir peiriant weindio, peiriannau cywasgu, offer trydanol a gwyntyll awyru Sirocco. I lawr y llethr, wrth y drifft newydd a gloddiwyd yn y 1950au, y caiff y glo ei brosesu a’i olchi. Câi siafft rhif 4, sy’n rhyw 161 o fetrau o ddyfnder a rhyw 5m o ddiamedr, ei defnyddio i gludo dynion a defnyddiau i lawr i’r pwll ac yn ôl, ond ar hyd y drifft y câi’r glo ei godi i’r wyneb.
Daeth y Tŵr yn enwog yn y 1990au fel y pwll glo dwfn olaf yng Nghymru. Dyma’r unig bwll a oroesodd y rhaglen enfawr o gau pyllau glo adeg y preifateiddio, a hynny diolch i fenter unigryw’r gweithwyr wrth iddyn nhw brynu’r pwll ym 1994 dan arweiniad y carismataidd Tyrone O’Sullivan. Mae’r ffaith bod y pwll yn cynhyrchu glo caled o safon uchel yn hytrach na glo meddal wedi bod yn hollbwysig am fod hynny wedi’i alluogi i ddod o hyd i farchnadoedd parhaus. Barn llawer yw bod y fenter lwyddiannus hon dan reolaeth y gweithwyr yn fuddugoliaeth i’r mudiad llafur modern.
Problemau daearegol a arweiniodd at gau’r pwll yn derfynol; er bod llawer iawn iawn o lo yn dal i fod o dan y safle, does dim modd ei godi i’r wyneb yn hawdd o dan y drefn bresennol. Does dim penderfyniad pendant wedi’i wneud eto ond, os bwriedir dal i gynhyrchu glo, bydd rhaid ei dynnu o’r ddaear drwy ryw ffordd arall.
Yn ystod yr wythnos cyn i’r pwll gau, ymwelodd staff o’r Comisiwn Brenhinol â’r safle hanesyddol hwn i wneud cofnod ffotograffig ohono. Bydd y cofnod yn ategu’r lluniau a dynnwyd dan ddaear yn y 1980au gan John Cornwell ac sydd bellach yn rhan o gasgliad John Cornwell yn CHCC. Mae’r lluniau newydd yn darlunio’r adeiladau sydd ar yr wyneb, gan gynnwys manylion mewnol y baddondai a neuadd y peiriannau, a byddant ar gael drwy Coflein cyn hir.
Brian Malaws, 01 Chwefror 2008