Amdanom Ni

Delweddau'n Syth

Delweddau cydraniad-uchel yw’r delweddau isod a chewch eu llwytho i lawr a’u defnyddio’n rhad ac am ddim i ddarlunio erthyglau, aseiniadau neu destun ysgrifenedig arall os yw’n briodol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y datganiad hawlfraint isod os byddwch chi’n atgynhyrchu’r ddelwedd.

Datganiad hawlfraint Cymraeg:

Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Datganiad hawlfraint Saesneg:

Crown Copyright: Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales

  • NPRN: 101450
Beddrod siambr o gerrig Neolithig yw Pentre Ifan. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl tua 3500CC. Ffurfiwyd y siambr ynddo drwy osod maen capan sy'n pwyso rhyw 16 o dunelli metrig ar ben tri maen unionsyth sy'n rhyw 2.5m o uchder, a hynny yn un pen i garnedd sy'n rhyw 30 m o hyd.
 (Cyfeirnod: CD2005_602_011, 7.9MB)
  • Castell Dolwyddelan 

NPRN: 95299
Mae'r castell yn cynnwys dau dŵr petryal a gysylltir gan lenfur afreolaidd ar y man uchaf ar gefnen hir a chreigiog. Y traddodiad yw mai yma y ganed Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr).
 (Cyfeirnod: DI2006_1686, 6.9MB)
  • Castell Harlech 
NPRN: 93729
Mae'r castell wedi'i godi o garreg galch a gwenithfaen ynghyd â naddiadau o dywodfaen. Mae iddo gynllun consentrig, sef cwrt mewnol petryal ac iddo waliau uchel a phedwar tŵr crwn yn y corneli, a chwrt allanol â waliau is sy'n dilyn yr un llinell mwy neu lai.
 (Cyfeirnod: AP_2005_0402 , 5.7MB)
  • Croes Caeriw
NPRN: 103458
Dyma un o'r mwyaf a gwychaf o'r holl feini coffa Cristnogol cynnar yng Nghymru. Mae'n 4m o daldra. Dywed yr arysgrif arno ei fod yn coffáu'r brenin Maredudd ap Edwin. Mae'n debyg iddo gael ei godi rhwng 1033 a 1035.
 (Cyfeirnod: DI2006_1322, 2.9MB)
  • Castell Margam 
NPRN: 19291
Codwyd Castell Margam o gerrig nadd y Pîl yn yr arddull Gothig Duduraidd ym 1830-1840 gan Thomas Hopper.
 (Cyfeirnod: DI2005_1151, 9.4MB)
  • Traphont Pontcysyllte 
NPRN: 34410
Cynlluniwyd y draphont hon gan Telford ac fe'i codwyd rhwng 1795 a 1805. Mae iddi bileri petryal o waith maen a bwâu o haearn bwrw, ac mae'n cario'r gamlas yn uchel dros afon Dyfrdwy mewn cafn a wnaed o ddarnau o haearn bwrw a gafodd eu bolltio i'w gilydd.
 (Cyfeirnod: DI2005_0878, 8.6MB)
  • Parc Cinmel, Gardd, Bodelwyddan
NPRN: 86617
Mae gan Ginmel barc o faint canolig sydd wedi'i dirweddu, ac mae'r tŷ mewn safle amlwg ynddo. Mae coetir, fferm a llyn yn y parc.
 (Cyfeirnod: GTJ60013, 6.5MB)
  • Pwll Glo Taf Merthyr
NPRN: 80488
Suddwyd pwll glo mawr Taf Merthyr ym 1924-26. Yr oedd iddo ddwy siafft a oedd yn 635m a 647m o ddyfnder, a 6.4m oedd eu diamedr. Cafodd y safle'i gau a'i glirio ym 1994.
 (Cyfeirnod: GTJ26364, 7.4MB)