Amdanom Ni

Amffitheatr Rufeinig Caerllion. 18/10/1999. (Image: DI2005_0468 / NPRN: 95650) Gwersyll Foel Drygarn, Trygarn, Preseli. 1999. (Image: DI2006_0755 / NPRN: 94948)

Gweithio yn CBHC

Mae gan y Comisiwn Brenhinol staff parhaol o ryw bymtheg ar hugain o bobl sy’n gweithio’n amser-llawn neu’n rhan-amser yn ei swyddfeydd yn Aberystwyth. Dros flynyddoedd lawer, mae’r Comisiwn wedi datblygu gweithlu medrus a helaeth ei gymwysterau ac wedi tyfu’n ganolfan gydnabyddedig o ragoriaeth ym meysydd treftadaeth. Bydd y mwyafrif o’r staff yn cyflawni rolau arbenigol – er enghraifft, ym meysydd gweinyddu archifau, archaeoleg, ffotograffiaeth, graffigwaith, addysg, hanes pensaernïol a rheoli gwybodaeth. Ysgrifennydd y Comisiwn, a’r Cadeirydd a’r Comisiynwyr, sy’n llywio’u gwaith. Mae rhestr staff lawn a chyfredol ar gael.

Caiff unrhyw swyddi gwag eu hysbysebu yn y wasg ac ar y wefan hon, gan gynnwys ambell gyfle i gael apwyntiad dros dro. Mae’r Comisiwn hefyd yn ceisio cynnig profiad gwaith, lleoliadau hyfforddi a chyfleoedd i wirfoddolwyr.

I gael gwybod rhagor, cysylltwch â’r Swyddog Adnoddau Dynol, Sue Billingsley.